Gwefan Prifysgol Bangor ar restr fer i dderbyn gwobr
Mae gwefan Prifysgol Bangor wedi ei rhoi ar y rhestr fer i dderbyn Gwobr Gwefan Orau yng Ngwobrau Marchnata blynyddol Heist.
Y rhain yw’r prif wobrau ym maes marchnata addysg uwch yng ngwledydd Prydain a chyhoeddir yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo fis Gorffennaf.
Ailgynlluniwyd y wefan yn ddiweddar, gan ei gwneud yn ffres ac yn fodern. Mae wedi ei chynllunio i'w defnyddio ar ffonau clyfar, tabledi a chyfrifiaduron ac mae'n cynnig profiad cyffrous a rhyngweithiol i bawb sy'n ymweld â'r safle. Mae hefyd yn cynnwys tudalennau mewn amryw o ieithoedd yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae’r wefan i’w gweld yma: http://www.bangor.ac.uk/index.php.cy
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Yn aml iawn, ein gwefan yw'r man cychwyn i bobl sydd â diddordeb ym Mhrifysgol Bangor. Yn wir, nododd bron i hanner ein myfyrwyr rhyngwladol mai’r wefan oedd y prif ddylanwad arnynt wrth iddynt benderfynu dod i’r brifysgol hon. Mae’r safle newydd yn ddeniadol ac yn lliwgar ac yn gweithio’n wych ar ffonau symudol a thabledi. Rwy'n hapus iawn â'r wefan newydd ac rwy'n gwybod y bydd yn cael argraff dda ar bawb fydd yn ymweld â hi."
Mae'r wefan yn cynnwys dros 60,000 o dudalennau ac mae cynllunio a pharatoi'r wefan newydd wedi bod yn dipyn o dasg. Crëwyd y wefan gan gwmni dylunio o'r enw Roundhouse, gan ymgynghori a chydweithio’n agos efo Tîm y We o adrannau Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata a Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth y Brifysgol, a staff allweddol eraill yno.
Y llynedd cafodd tîm Marchnata Prifysgol Bangor ei roi ar y rhestr fer am y Prosbectws Ôl-radd gorau ym Mhrydain yn yr un gwobrau ym maes marchnata mewn addysg.
Enillodd y tîm wobr hefyd am ei Adroddiad Blynyddol yn 2012 a’r ail safle yn 2011 am ei Brosbectws Is-raddedig mewn seremoni wobrwyo arall. Yn ogystal, rhoddwyd Bangor ar y rhestr fer am wobr Adran Farchnata’r Flwyddyn yn 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2014