Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Iau - Ychwaneg o gerddoriaeth ar Stondin Prifysgol Bangor ar Faes yr Eisteddfod
Ychwaneg o gerddoriaeth ar Stondin Prifysgol Bangor ar Faes yr Eisteddfod
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor sy’n trefnu’r arlwy ar gyfer dydd Iau pob blwyddyn ar ‘stondin’ Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod. Eleni eto mae diwrnod llawn o weithgareddau at ddant pawb.
Bydd Gweithdy Cyfansoddi gyda’r cyfansoddwr ac Uwch Ddalithydd, Pwyll ap Siôn ac Osian a Branwen o’r grŵp Siddi, a disgyblion Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn cychwyn y gweithgareddau am 11.00am.
Perfformiad byw gan y canwr poblogaidd Ynyr Llwyd, sydd rhwng 12pm-12.30pm. Graddiodd Ynyr, sy’n hanu’n wreiddiol o ardal Dinbych, gydag MA o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn 2012.
Mae disgyblion Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl wedi bod yn brysur yn addurno pianos bach yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod o dan arweiniad yr artist Rhian Price, a bydd cyfle i blant chwarae’r pianos mewn Gweithdy Pianos Bach gyda’r cerddor Manon Llwyd am 12.45pm.
Am 2pm bydd Dosbarth Meistr telyn gydag Elinor Bennett a noddir gan Ganolfan Gerdd William Mathias ac yna i gloi’r cyfan bydd perfformiad byw gan y deuawd gwerin o Lanuwchllyn, Siddi, sy’n prysur ddod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg, am 3.30.
Meddai Gwawr Ifan, Darlithydd y Coleg Cymraeg, sy’n arbenigo mewn Cerddoriaeth ac Iechyd a Lles: “Mae’r diwrnod yn adlewyrchu’r Ysgol Gerdd. Rydym yn Ysgol boblogaidd ac, er yn fach, rydym yn cynnig graddau yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Mae dewis o fodiwlau’n ei gwneud yn bosib astudio pob dim o Stravinsky i’r Sex Pistols, a chael profiad yn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu, neu ym meysydd gweinyddu’r celfyddydau, cerddoriaeth gymunedol, cyhoeddi cerddoriaeth a cherddoriaeth mewn iechyd.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013