Gwobr Goffa Llew Rees 2021
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant mewn chwaraeon, Gwobr Goffa Llew Rees, i chwaraewr talentog rygbi'r undeb, Brea Leung.
Mae Gwobr Goffa Llewelyn Rees o £750 yn coffáu Cyfarwyddwr Hamdden Gorfforol y brifysgol rhwng 1961-72. Rhoddir y wobr i'r myfyriwr sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf at godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor trwy eu cyflawniad ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
Ymunodd Brea, sydd yn ail flwyddyn cwrs radiograffeg ac sy’n dod o Gaernarfon, â thîm Undeb Rygbi Merched Prifysgol Bangor yn ei blwyddyn gyntaf, ac mae wedi cynrychioli’r brifysgol mewn sawl gêm a drefnwyd gan Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain yn 2019/20, gyda’r tîm yn cyrraedd rownd derfynol y gwpan am y tro cyntaf yn ei hanes.
Magwyd Brea mewn teulu sy'n hoff iawn o rygbi, a chafodd ei dewis i dîm merched gogledd Cymru pan oedd yn 11 oed. Ar lefel uwch, mae hi wedi cynrychioli RGC, y Scarlets, Cymru yn ogystal â chlwb uwch gynghrair Lloegr, Firwood Waterloo, ac ar hyn o bryd mae'n chwarae ar lefel elitaidd gyda thîm Premier 15s, y Sale Sharks.
Wrth dderbyn y wobr flynyddol, dywedodd Brea: “Mae’n anrhydedd i mi ennill Gwobr Goffa Llew Rees. Eleni, rwyf wedi teimlo'n freintiedig iawn, cefais statws athletwr elitaidd a ganiataodd imi barhau i ymarfer a chystadlu trwy gydol y pandemig. Bydd y wobr hon o gymorth mawr imi barhau i chwarae rygbi ar y lefel uchaf i Sale Sharks y tymor hwn a gorffen fy ngradd ym Mangor a chymhwyso’n radiograffydd ar yr un pryd.”
Meddai Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol Bangor: “Er gwaethaf y pandemig a chyfyngiadau’r llywodraeth, mae Brea wedi gweithio’n galed i ymarfer pryd bynnag oedd hynny’n bosib. Mae’n bleser gennym gyflwyno Gwobr Goffa Llew Rees 2021 iddi.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2021