Gwobrwyo cynrychiolwyr myfyrwyr Bangor
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, ar y cyd â Thîm Rheoli’r Brifysgol, wedi creu system neilltuol o gynrychiolaeth myfyrwyr i sicrhau bod llais myfyrwyr i’w glywed yn glir. Mae Undeb y Myfyrwyr wedi cydweithio â phob Ysgol o fewn y Brifysgol i greu tîm o 225 o gynrychiolwyr dros grwpiau blwyddyn a grwpiau cwrs gwahanol.
Mae hyn yn rhan o fenter gan y Brifysgol a’r Undeb i annog y myfyrwyr i ymwneud mwy ag addasu a chynllunio profiad academaidd, diwylliannol a cymdeithasol tra byddant yn y Brifysgol. Mae’r drefn gynrychioli newydd yn annog myfyrwyr i fod yn fwy gweithgar wrth lunio dyfodol y Brifysgol, nid un unig fel defnyddwyr ond fel buddsoddwyr a chyfranddalwyr.
Mewn dathliad diweddar o’r system newydd, diolchwyd i’r Cynrychiolwyr Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor am eu cyfraniad. Llongyfarchwyd hwy gan yr Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu, am eu hamser, eu hymdrech, eu hegni a’u hymroddiad i’r gwaith. Talodd deyrnged arbennig i swyddogion sabothol Undeb y Myfyrwyr, o dan arweiniad Jo Caulfield, am eu gweledigaeth a’r cydweithio arbennig, gan ddiolch yn arbennig i Danielle Buckley am y modd effeithiol y bu’n trefnu’r system cynrychioli myfyrwyr.
Gan ddweud bod cynrychiolaeth myfyrwyr yn fater ehangach na democratiaeth yn unig, meddai, “Mae’n well gennym feddwl am fyfyrwyr fel buddsoddwyr yn y profiad addysgol o’r ansawdd gorau y mae’r Brifysgol yn anelu at ei ddarparu, ac felly mae’n fyfyrwyr yn gyfranddalwyr a chanddynt ymdeimlad o berchnogaeth dros y ‘cwmni’. Mae lle bob amser i wella’r broses o addysgu myfyrwyr a gofalu amdanynt. Cydweithio â’n myfyrwyr yw’r ffordd o wneud hyn. Nid oes gan staff fonopoli ar syniadau newydd, a gall myfyrwyr gyfrannu syniadau newydd, awgrymiadau creadigol, ac ysgogi newid.”
Wrth dalu teyrnged i ymroddiad y Cynrychiolwyr Myfyrwyr, dywedodd yr Athro Baker eu bod wedi dangos cyfrifoldeb ac onestrwydd, sgiliau arwain a gweithio mewn tîm, cyfathrebu a chydweithio trwy eu gwaith fel cynrychiolwyr. Mae’r rhain yn sgiliau a fydd o fudd iddynt pan fyddant yn ymuno â’r farchnad yrfaoedd ar ôl graddio.
Meddai Danielle Buckley, Dirprwy Lywydd Undeb y Myfyrwyr sydd â chyfrifoldeb dros Addysg a Lles, “Mae’r system Cynrychiolwyr Cwrs wedi bod yn llwyddiant mawr eleni, gyda chynnydd yn y niferoedd, o 35 i 225. Mae’r myfyrwyr cyfrannog wedi bod yn ymroddedig wrth sicrhau bod ganddynt lais cryfach nag erioed o’r blaen yn y Brifysgol. Mae wedi bod yn wych gweithio mewn cysylltiad agos â’r Brifysgol ar y project yma, ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod.”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2011