Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru'n dychwelyd am y pedwerydd tro yn 2015, gyda chyfres o ddarlleniadau a pherfformiadau yn Aberystwyth a Bangor Hydref 7-10. Cynhelir digwyddiadau yn y ddwy brifysgol ac mewn mannau lleol. Bydd beirdd rhyngwladol yn darllen eu gwaith wrth ochr llenorion o Gymru, gyda chyfieithiadau i’r Saesneg a’r Gymraeg.
Dywedodd Zoë Skoulding, cyd-gyfarwyddwr yr ŵyl ym Mhrifysgol Bangor: "Mae beirdd o wledydd eraill yn dod ag ieithoedd a safbwyntiau gwahanol sy'n ein helpu i weld ein diwylliant ein hunain mewn ffyrdd newydd, ac mae presenoldeb cyson yr ŵyl yn helpu i greu cysylltiadau cyffrous rhwng llenorion a chynulleidfaoedd. Eleni, byddwn yn canolbwyntio'n arbennig ar Croatia yn ogystal â beirdd o Latvia, Slovenia a Sbaen. Ein gobaith ni yw y bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gyfarfod barddoniaeth mewn ffyrdd newydd, naill ai trwy drafodaethau gyda'r awduron ynghylch eu llyfrau, cyflwyniadau amlgyfrwng, neu fywiogrwydd y darlleniadau barddoniaeth byw."
Cynhelir Gŵyl Barddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Poetry Wales a PEN Cymru a chyda cymorth Rhaglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Llenorion a Gweinyddiaeth Diwylliant Croatia, Canolfan Llenyddiaeth Latvia, Gweinyddiaeth Diwylliant Slovenia, Prifysgol Lerpwl a Chaffi Whistlestop.
Dyddiadau digwyddiadau: http://www.bangor.ac.uk/news/digwyddiadau/2015-10
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2015