Jamie’n rhedeg efo’r Fflam Olympaidd a hefyd angen eich cymorth
Mae Jamie Turley, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor efo wythnosau prysur o’i flaen. Nid yn unig mae wedi’i dewis i redeg efo’r Fflam Olympaidd heibio’i dref enedigol, Ffynnongroyw ar Fai 29, hefyd mae wedi’i ddewis yn Gydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer dathliadau pan ddaw’r Ffagl a’r Fflam Olympaidd i Fangor ar 28 Fai 2012.
Mae eisoes yn Llysgennad Ifanc ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, a gyda phrofiad gwirfoddoli blaenorol, mae wedi cael ei ddewis fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr ar gyfer tîm digwyddiadau Cyngor Gwynedd.
Mae bellach yn chwilio am wirfoddolwyr ifainc i'w gynorthwyo mewn dau ddigwyddiad cyffrous:
Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r Daith Ras Gyfnewid Torch Olympaidd ym Mangor i'w gynnal ar 28 Mai 2012. Mae'n recriwtio gwirfoddolwyr o blith bobl ifanc y sir, gan gynnwys myfyrwyr Prifysgol Bangor. Bydd y prif ddigwyddiad yn Y Faenol, ar gyrion Bangor, ar nos Lun 28 Mai, yn cael ei gynnal gan y Cyngor a'r Pwyllgor Trefnu'r Gemau Olympaidd Llundain, a bydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan berfformiwr blaenllaw.
Meddai Jamie, sy'n astudio Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored): "Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i bobl ein hardal i brofi grym y Gemau Olympaidd yn yr ardal. Bydd gwirfoddolwyr yn ennill profiad gwerthfawr o'r digwyddiad yn ogystal â chwblhau dau gwrs ardystiedig.”
Mae Jamie hefyd yn cydlynu gwirfoddoli ar gyfer Gŵyl Wakestock. I'w gynnal ar benwythnos 6ed Gorffennaf, Mae’r Ŵyl yn enwog am ddathlu donfyrddio a cherddoriaeth byw.
Mae Jamie’n awyddus i glywed gan bobl ifanc sydd am wirfoddoli ac yn gallu darparu manylion pellach drwy ei e-bost peuea5@bangor.ac.uk ac mae'n awyddus i glywed gan fyfyrwyr a phobl ifanc lleol.
Darllenwch rhagor o straeon yn ymwneud á'r Olympics yma:- http://www.bangor.ac.uk/uniweek/index.php.cy?
Mae rhagor o wybodaeth i'w cael gan y trefnwyr:
Ffagl Olympaidd - (Hugh Edwin Jones) - hughedwinjones@gwynedd.gov.uk
Wakestock-(Helen Lawr) - helen@wakestock.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2012