Lansiad Coleg Bangor Tsieina
Bu mwy na 260 o fyfyrwyr yn dathlu agoriad Coleg Bangor Tsieina yn eu mamwlad.
Cynhaliwyd seremoni arbennig, wedi ei threfnu gan y Central South University of Forestry and Technology (CSUFT), Changsa, Tsieina yn Neuadd Gynhadledd y brifysgol ddydd Sadwrn 27 Medi. Lansiwyd Coleg Bangor Tsieina gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor a'r Athro Xianyan Zhou, Llywydd Central South University of Forestry and Technology (CSUFT). Roedd yr Athro John Thornton, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor, Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwr Datblygiad Rhyngwladol a Luna Wu, Cyfarwyddwr Swyddfa Bangor Beijing hefyd yn bresennol yn y seremoni. Y gwesteion er anrhydedd oedd Susan Jiang, Prif Gynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Beijing ac Angus Bjamason, Cyfarwyddwr Rhanbarth y Cyngor Prydeinig ar gyfer De Tsieina. Rhoddodd y ddau anerchiadau byr yn llongyfarch Coleg Bangor Tsieina.
"Mae Coleg Bangor Tsieina o bwysigrwydd strategol i Brifysgol Bangor" meddai'r Athro John Hughes. "Mae'r brifysgol yn gyfrifol am ansawdd dysgu, addysgu ac asesu Coleg Bangor Tsieina ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu rhaglenni pwrpasol o safon uchel i fyfyrwyr y coleg."
Bu myfyrwyr y coleg a myfyrwyr cerddoriaeth CSUFT yn diddanu'r gwesteion yn ogystal â myfyrwyr eraill a'u rhieni trwy berfformio gwahanol dawnsiau a chaneuon yn y seremoni. Hefyd cynhaliwyd sesiwn ryngweithiol rhwng staff Bangor a myfyrwyr BCC yn ystod y noson.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014