Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn un o'r deg adran uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae dadansoddiad pellach o ganlyniadau diweddar Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 wedi dod â mwy o newyddion da i'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg.
Mae Times Higher Education yr wythnos hon yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau REF 2014 yn ôl nifer y staff a gyflwynwyd, a gosodwyd yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn y nawfed safle am ddwysedd ei hymchwil.
Dywedodd Helen Wilcox, Athro Llenyddiaeth Saesneg a Phennaeth yr ysgol, ei bod wrth ei bodd pan ddarllenodd y newyddion yn y Times Higher (dyddiedig 1-7 Ionawr 2015).
“Mae'r tabl cynghrair hwn yn cymryd i ystyriaeth nid yn unig ansawdd y cyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan staff Llenyddiaeth Saesneg Bangor sydd gyda'r gorau yn byd, ond hefyd y ffaith bod gwaith gan bob aelod o staff yr ysgol wedi ei gyflwyno i'r broses asesu ymchwil" meddai'r Athro Wilcox.
"Mae'r tabl hwn hefyd yn cydnabod yr hyn a ystyriwn yn gyswllt hanfodol rhwng addysg ac ymchwil: mae'r holl staff darlithio mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mangor hefyd yn ymchwilwyr cynhyrchiol, ac yn ysgrifennu llyfrau ac erthyglau o fri rhyngwladol, sy'n cyfeirio ac yn sbarduno'r myfyrwyr sy'n dysgu gyda nhw. Mae llwyddiant yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi boddhad arbennig o ystyried y nifer fawr o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig graddau yn Saesneg, sy'n gwneud y ffaith ein bod ni yn y deg uchaf hyd yn oed yn fwy arwyddocaol.
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014