Llongyfarch Athro'r Flwyddyn
Llongyfarchiadau i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Llew Davies, sydd newydd ennill teitl Athro’r Flwyddyn, prif wobr ei broffesiwn.
Cafodd Llew Davies ei ddisgrifio fel un o'r athrawon hynny mae disgyblion yn eu cofio am weddill eu hoes. Graddiodd Llew gyda gradd B Add o’r Brifysgol yn 2003, ac yn ddiweddar, fe’i benodwyd yn Ddirprwy Brifathro Ysgol Cae Top, Bangor.
“Mae’r ffaith bod Llew wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys yn dod â chlod i’r Brifysgol ac i’r cwrs hyfforddi cynradd. Mae’n wych gweld athro sydd wedi hyfforddi efo ni yn llwyddo i’r fath raddau. Mae Llew wedi parhau i gadw mewn cysylltiad efo’r Brifysgol ers iddo raddio, ac yn cydweithio efo staff mewn sawl ffordd. Mae’n fentor i athrawon sy’n hyfforddi yn ei ysgol ac yn dod a disgyblion i weithdai yn yr Ysgol Addysg. Mae ei ddisgyblion, o dan ei orychwiliaeth, wedi cael llwyddiant wrth ennill cystadleuaeth F1 cynradd sy’n cael ei threfnu gan ein Canolfan Dylunio a Thechnoleg,” meddai Janet Pritchard, Pennaeth yr Ysgol.
"Mae'n athro digri, neis iawn, sy' bob amser yn gwneud i ni chwerthin," meddai Scott Davies, y disgybl a'i henwebodd.
Mae'n athro ymgynghorol gwyddoniaeth, yn enwog am ei arbrofion cyffrous a gwelodd beirniaid y DU dystiolaeth o wers ar losgfynyddoedd a ddiweddodd gan adael staen coch ar y nenfwd.
Cafodd ei fagu ar fferm odro ar Ynys Môn.
Dywedodd y beirniaid: "Roeddem yn teimlo ein bod ym mhresenoldeb athro proffesiynol gwirioneddol ysbrydoledig, effeithiol a thalentog.
"Beth bynnag fyddwch chi'n ei alw, y ffactor X, y waw ffactor, y sbarc - mae o gan Llew!"
"Rydym wedi dod ymhell mewn 12 mlynedd ac yn falch bod enwebiadau 2010 wedi cyrraedd 9,224, sy'n record newydd," meddai Caroline Evans, Prif Weithredwraig y Gwobrau Athrawon.
"Fel o'r blaen, mae'r enillwyr newydd yn llysgenhadon gwych dros y broffesiwn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010