Llwyddiant Gŵyl Wyddoniaeth Bangor 2016
Arddangosfa Bydoedd Cudd eleni oedd y fwyaf erioed, gydag 800 o bobl yn ymweld ag Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor, ddydd Sadwrn, 12 Mawrth rhwng 10am a 4pm ar gyfer digwyddiad mwyaf blaenllaw Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.
Michael Jordan, intern sy'n fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio athroniaeth a chrefydd oedd trefnydd Bydoedd Cudd eleni. Meddai Michael: "Rydym wrth ein boddau bod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Roedd mwy nag erioed o'r blaen o fyfyrwyr yn gwirfoddoli eleni, ac roedd pob un ohonynt yn danbaid dros eu maes nhw o wyddoniaeth ac roedden nhw'n awyddus i ymwneud â'r cyhoedd, ac mae'r adborth a gafwyd gan y cyhoedd wedi bod yn ganmoliaethus iawn."
Roedd gan yr Ŵyl Wyddoniaeth hefyd daith gerdded daeareg, sgwrs am geir trydan, lansiad cynllun ailgylchu dillad "Caru Eich Dillad", cystadlaethau i fyfyrwyr a digwyddiadau gyrfaoedd yn ogystal â diwrnod agored i ôl-raddedigion a gweithdai Cemeg a Mathemateg.
Meddai Stevie Scanlan, un o drefnwyr yr Ŵyl: "Mae wedi bod yn wythnos brysur inni yma ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi bod yn wych gweld cymaint o'n myfyrwyr a'n cydweithwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiadau. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 10 ac 19 Mawrth y flwyddyn nesaf, felly cofiwch y dyddiad gan ein bod eisoes yn trefnu digwyddiadau a chystadlaethau cyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf."
Peth o'r adborth ar ôl Bydoedd Cudd:
Diwrnod gwych, diolch ichi, roedd pob lefel yn wych!
Byddai’r plant yn hoffi clwb wythnosol y gallent fynd iddo - a byddai'r rhieni'n talu!
Pam mai dim ond unwaith y flwyddyn ydych chi'n cynnal rhywbeth fel hyn?
Wedi mwynhau'r holl weithgareddau, yn enwedig peintio a gwneud sleim
Mi fyddwn ni'n ôl flwyddyn nesa!
Roedd yr arddangosfeydd i yn dda iawn, a'ch staff a'ch myfyrwyr i gyd yn llawn gwybodaeth
Rhywbeth i bawb o bob oed - rhyfeddol, diolch ichi!
Yn gyffredinol roedd yr holl weithgareddau'n wych, yn enwedig y sioe gemeg a'r arbrofion gwyddonol
Diwrnod rhagorol i amrywiaeth o oedrannau - da iawn!
Mwynheais bob un maes, nid yn unig fy ŵyr ond finnau hefyd!
RYDAN NI EISIAU MWY O HUFEN IA HYLIF NITROGEN!
Roedd ein pedwar plentyn wedi mwynhau yn ofnadwy
Pleser cael croeso mor gynnes, ac roedd y myfyrwyr yn ennyn diddordeb y plant!
Diwrnod gorau'r flwyddyn, meddai'r plant - roedd yn anodd eu cael nhw allan o'r lle!
Roeddem ni wrth ein boddau gyda'r sioe gemeg, y gogls VR, yr ysgythru laser a'r croeso cynnes!
Bob blwyddyn mae yna welliannau bychain i'w gwerthfawrogi - diolch ichi am ddiwrnod gwych!
Diolch yn fawr iawn i bawb, mae'r digwyddiad yma'n berffaith 100%!
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016