Louis yn dathlu ei 'radd dosbarth cyntaf!
Yr wythnos hon, mae Louis Rhys Waters, 21, o Bencoed, Penybont ar Ogwr, yn graddio o Brifysgol Bangor gyda dosbarth cyntaf mewn Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau.
Dywedodd Louis, “Mae graddio yn gyflawniad gwych! Er fy mod eisiau ail-fyw’r tair blynedd ddiwethaf, ni fyddwn yn newid dim.
“Roeddwn yn falch iawn o gael gwybod fy mod yn graddio gyda dosbarth cyntaf. Byswn yn hapus gyda 2:1 ond ar ôl cael A yn fy nhraethawd hir ar newyddiaduraeth ddigidol, roeddwn wrth fy modd.
“Er fy mod yn galw Cymru yn gartref imi, rwyf wedi byw dramor am nifer o flynyddoedd. Cyn dod i Brifysgol Bangor, roeddwn yn byw yn Sbaen am tua 3 blynedd. Rwyf hefyd wedi byw yn Japan a Singapôr.”
Am Fangor, ychwanegodd, “Roeddwn wedi bwriadu dod am gyfweliad ym Mangor ond doedd ddim yn bosib oherwydd y ffrwydrad folcanig yng Ngwlad yr Iâ. Cyn gynted ag y cyrhaeddais Fangor, roeddwn wrth fy modd.
“Digwyddodd un o’r uchafbwyntiau yn ystod fy nhair blynedd ym Mangor yn ystod fy ail flwyddyn, pan gefais gyfle i gyfweld Amy Lamé a Peter Tatchell, dau gefnogwyr hawliau dynol. Hefyd, mi wnes i weithio fel intern ar Real Radio Wales, a oedd yn gyfle i mi weld arferion newyddiadurol mewn lle gwaith.
“Roeddwn hefyd yn aelod o Undod Bangor ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr Undeb Myfyrwyr Bangor ar ôl dod yn Seneddwr Cyffredinol.”
Ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd Louis, “Ym mis Medi, byddaf yn astudio gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, ac ar ôl hynny rwyf yn gobeithio dilyn gyrfa fel newyddiadurwr.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013