Mae Penaethiaid Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol ill dau wedi croesawu canlyniadau REF 2014
Mae Penaethiaid Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol ill dau wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle barnwyd bod 95% o ymchwil ym maes iechyd ym Mhrifysgol Bangor o safon gyda’r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.
Bu Mr Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, yn croesawu’r canlyniadau, a oedd yn cynnwys cyfraniad gwerthfawr gan ymchwilwyr yng Ngrŵp Canser Gogledd Cymru, a fydd, cyn hir, yn rhan o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol. Meddai, “Mae’r canlyniadau hyn yn gydnabyddiaeth glir o’r gweithgaredd ymchwil rhagorol a gyflawnir yng Ngogledd Cymru, a Phrifysgol Bangor ar flaen y gad. Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd gweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau academaidd.”
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014