Milltir Ysbyty Gwynedd
Bydd cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan yn y ras Milltir Ysbyty Gwynedd flynyddol dydd Sul Mawrth 25ain o 12pm ymlaen i godi arian i Sport Relief. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Drac Athletau Arfon yng Nghaeau Chware Treborth, Prifysgol Bangor.
Mae’r rhain sydd yn cymryd rhan wedi dewis rhedeg un ai un, tair neu chew milltir, unai yn unigol neu fel rhan o dîm. Mae’r digwyddiad ym Mangor yn un o gannoedd a fydd yn cael ei gynnal ledled Prydain i godi arian ar gyfer Comic Relief, a fydd yna’n cael ei wario i helpu pobl sydd yn byw mewn sefyllfaoedd anodd ym Mhrydain a thu hwnt yn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Dywedodd Richard Bennet, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden y Brifysgol: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’n partneriaid, Cyngor Gwynedd ac Ysbyty Gwynedd, i sicrhau fod y digwyddiad eleni yn un o’r rhai gorau erioed!
“Gyda dros 400 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan yn barod mae’r digwyddiad am fod yn ddiwrnod gwych i’r teulu i gyd!
“Bydd Safle Normal y Brifysgol yn cael ei ddefnyddio fel Maes Parcio gyda gwasanaeth ‘Park and Ride’ yn rhedeg i drac Treborth a’r caeau chwarae. Bydd Gwasanaeth Diogelwch y Brifysgol a staff cyffredinol yn gweithio’n galed i gadw pawb yn ddiogel ac i wneud yn siŵr bod y digwyddiad yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer hefyd yno ar y diwrnod i helpu ac i edrych ar ôl y rhedwyr ar y diwrnod hefyd.”
Mwy o wybodaeth yma http://www.sportrelief.com/the-mile
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012