Mwy o lwyddiant i'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Enillodd y ffilm ‘Not’ y wobr am y ffilm Gymraeg orau ac enillodd 'Long I Stood There' y wobr am y ffilm naratif orau yng ngŵyl ffilmiau byr Caerdydd, ddydd Sul, 23 Mehefin.
Fe ysgrifennwyd, cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd ‘NOT’ gan John Evans, myfyriwr gwneud ffilmiau MA, yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Hefyd enillodd Ceri, merch hynaf John, y categori actio gorau. Mae John wedi rhoi'r ddwy wobr i'r ysgol.
Enillodd Osian Williams o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yr ail wobr yn y categori iaith Gymraeg gyda 'Cân i Emrys' ac enwebwyd Malik Roberts gyda'i ffilm Gibran yn y categori celf/arbrofol.
Dyma aelodau cast NOT: Nia - Sera Mai (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); Ceri - Ceri Williams; Carys - Annabel Evans; Gavin - David Clarke (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); Mathew Hughes (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); Ian Roberts.
Y criw: Fe'i hysgrifennwyd, cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan John Evans (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); y cyfarwyddwr ffotograffiaeth oedd Dewi Evans (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); fe'i golygwyd gan John Evans a Marty Hughes (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); sain Dan Hogg (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); y cynorthwyydd camera oedd Ali Brabbs (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); y gweithredydd bŵm oedd Michaela Cortese (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau).
Cysylltiadau eraill â'r ysgol oedd y goruchwylydd Jo Wright sy'n ddarlithydd yn yr ysgol ac Alex Ashcroft a gynorthwyodd gyda dylunio'r sain.
‘Long I Stood There’ oedd project grŵp blwyddyn olaf gan John Evans a Mat Owen, dan oruchwyliaeth Dyfrig Jones a'r goruchwylydd ymarferol oedd Jo Wright.
Y criw: y cyfarwyddwr oedd John Evans a Mat Owen; y cyfarwyddwr ffotograffiaeth oedd Siôn Griffiths (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); y cynorthwyydd camera oedd Ali Brabbs (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau); a'r sain gan Dave Clarke (Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2013