Myfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a Daearyddiaeth wedi’i ddewis yn wirfoddolwr ar gyfer y Gêmau Olympaidd!
Mae Charlie Woolliscroft, myfyrwraig Ddaearyddiaeth ym Mlwyddyn 3, wedi cael yr anrhydedd o gael ei dewis yn wirfoddolwr yn y Tîm Cludo ar gyfer Gêmau Olympaidd 2012.
Roedd Charlie wrth ei bodd o gael ei dewis, a dywedodd, “Cyfle unigryw yw’r Gêmau Olympaidd, i gymryd rhan a chael profiad; trwy wirfoddoli, byddaf yn gallu cyfrannu tuag at y digwyddiad mwyaf eiconig ym myd chwaraeon yn ein cenhedlaeth. Byddaf yn rhan o dîm o fwy na 70,000 o wirfoddolwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r athletwyr, y cyfryngau ac amrywiaeth o staff technegol ategol. Rwyf yn falch iawn ac yn gynnwrf i gyd o fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n addo bod yn gynaliadwy ac chyffrous, ac yn mynd i adael rhywbeth i’r cenedlaethau a ddêl o fewn y Deyrnas Unedig.”
Bydd y medrau y bydd Charlie yn eu datblygu trwy’r digwyddiad yn ychwanegu at yr amrywiaeth o fedrau pwnc-benodol a throsglwyddadwy y mae hi’n eu datblygu trwy ei hastudiaethau gradd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2012