Myfyrwraig wedi ennill iPad ar ol ymweld a'r Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig
Pan aeth Joanne Keeler i’r Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig ym mis Chwefror, ychydig a sylweddolai y byddai hi nid yn unig yn cael cyfle i ddysgu am ei hopsiynau ôl-radd, ond y byddai cyn bo hir hefyd yn ymfalchïo mewn iPad newydd sbon!
Joanne Keeler yn derbyn ei iPad gan Michael RogersonO Aberystwyth yn wreiddiol ac yn fyfyrwraig Seicoleg yn ei thrydedd flwyddyn, daeth Joanne i’r Ffair i ddarganfod mwy am arbenigo mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, sef ei hoff fodiwl o’i gradd israddedig.
“Roedd y Ffair Ôl-radd yn hynod ddefnyddiol am ei bod wedi dangos yn glir beth sydd ar gael i ôl-raddedigion yma ym Mangor. Byddwn yn argymell i bawb fynychu’r Ffair, yn enwedig os ydynt eisiau parhau â’u haddysg.”
Gobaith Joanne, ers y Ffair, yw cael ei derbyn ar gwrs gradd Meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ym Mangor, a defnyddio’r radd honno wedyn i ddilyn gyrfa lle y byddai’n gweithio gydag unigolion sy’n dioddef o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig.
Wedi iddi glywed bod ei henw hi wedi’i ddewis ar hap i ennill iPad, o dros 250 o gofrestriadau ar ddiwrnod y Ffair, anghrediniaeth oedd ei hymateb gyntaf!
“Roeddwn i’n methu coelio’r peth pan glywais y newyddion (er bod cyffro mawr i’w glywed yn dod o ‘Maclab’ yr Adran) a dim ond pan oedd yr iPad yn fy nwylo y sylweddolais i nad jôc oedd o!”
Er, fel mae’r llun yn dangos, trodd anghrediniaeth Joanne yn hapusrwydd llwyr pan gyflwynwyd yr iPad iddi gan Michael Rogerson, sef Swyddog Marchnata Ôl-radd:
“Rydw i’n hynod falch o gael cyflwyno hwn i Joanne sy’n enillydd teilwng dros ben. Rydw i hefyd wrth fy modd i glywed gan Joanne nad hwn yw’r unig beth positif sydd wedi dod o fynychu’r Ffair Cyrsiau Ôl-radd, a’i bod hi’n awyddus i aros ym Mangor i ennill gradd meistr.”
Dywedodd Joanne am ei phrofiad ym Mangor,
“Bangor yw'r lle gorau i astudio, mae cymorth ar gael os oes angen, mae adnoddau ar gael i bob cwrs, mae’r darlithwyr a’r staff yn gyfeillgar dros ben ac mae bywyd cymdeithasol y ddinas yn wych gan ddarparu rhywbeth at ddant pawb.”
---
Caiff y Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig nesaf ei chynnal ym mis Tachwedd 2011, ond os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad am yr opsiynau ôl-raddedig cysylltwch â Michael drwy e-bostio m.rogerson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2011