Myfyrwyr Bangor yn dysgu am ddechrau busnes!
Cymerodd ddeuddeg o fyfyrwyr Bangor o amryw o Ysgolion academaidd y Brifysgol ran mewn cwrs busnes ar 25 Mehefin.
Roedd y cwrs dan arweiniad dau arbenigwr allanol, sef Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor busnes profiadol o Loegr sy’n cefnogi nifer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion Prifysgol Bangor sy’n dechrau busnes ar hyn o bryd, a Mike Chitty, arweinydd adnabyddus ym maes datblygu entrepreneuriaid a thimau ifanc.
Rhannwyd y sesiwn yn ddwy ran, sef ‘So you want to start a business?’ - golwg ymarferol ar beth sydd ynghlwm wrth ddechrau eich busnes eich hunan, a sesiwn ryngweithiol ‘A Toolkit for Entrepreneurs’ – cyngor ac awgrymiadau i gyw entrepreneuriaid er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt i lwyddo gyda’u busnes cyntaf!
Trefnwyd y digwyddiad hwn, oedd yn rhad ac am ddim, gan y rhaglen Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae bod yn hunangyflogedig neu weithio ar eich liwt eich hun yn golygu y gallwch fod yn fos arnoch eich hun, gwneud rhywbeth rydych yn ei hoffi a chymryd rheolaeth dros eich gyrfa eich hun. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu sylfaen cadarn.
Bydd cyfle i fynd ar gwrs tebyg ar 25 Gorffennaf 2012 a bydd y cwrs hwnnw ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor a’r holl raddedigion diweddar sy’n byw yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan Byddwch Fentrus ac ar ein tudalen Facebook (B-Enterprising Bangor) am ragor o fanylion. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, cysylltwch â ni ar b-enterprising@bangor.ac.uk neu 01248 388424.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2012