Myfyrwyr Seicoleg yn cystadlu yn rownd derfynol 'The Pitch'
Cafodd tîm o dri myfyriwr ôl-radd o’r Ysgol Seicoleg gamoliaeth uchel yn rownd derfynol The Pitch, sef her cynllun busnes a marchnata drwy’r DU a gynhelir yn Llundain ar 3 Hydref.
Cyflwynodd timau o bob rhan o’r DU fideos ar-lein gyda’r beirniaid yn dewis y 4 tîm gorau i ddod i Lundain i gyflwyno eu syniad yn "fyw" yn y digwyddiad mawr.
Roedd y myfyrwyr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr ym Mangor, Chinmay Tamhaney (Tsieina), Charlotte Alexander (Canada) a Daniel Beltran (Colombia) yn cystadlu fel tîm o dan yr enw [in]tangible assets gan gyflwyno eu hymgyrch, “Social Media and the Psychology of Carton”, i’r beirniaid, yn edrych ar hyrwyddo’r defnydd o fwrdd carton ymhlith gwerthwyr.
Meddai James Intriligator, mentor y tîm ac uwch ddarlithydd mewn Seicoleg Defnyddwyr ym Mangor: “Fe wnaeth y tîm yn dda iawn mewn cystadleuaeth o safon uchel.Dywedodd y panel beirniadu - sydd wedi bod yn beirniadu ers rhai blynyddoedd - fod y 4 tîm yn wych gyda’r safon uchaf yr meant erioed wedi gweld.”
Dywedodd Daniel Beltran, 27: “Rydw i yn falch ein bod wedi gallu dangos y cyfraniad mae seicolegwyr yn gallu gwneud i’r byd marchnata o ran ymchwil a datblygu strategaeth newydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2012