Myfyrwyr TOP yn mwynhau dysgu ieithoedd
Yn ystod mis Gorffennaf cynhaliodd grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig o'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor sesiynau i ysgolion a fu’n cymryd rhan yn Rhaglen Dawn a Chyfle’r Brifysgol. Yr ysgolion uwchradd a ddaeth i Fangor i gymryd rhan oedd: Ysgol Bryn Elian, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Glan y Môr ac roedd tua 15 o ddisgyblion ym mhob grŵp. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu ffeithiau ieithyddol a gwybod mwy am astudio ieithoedd ym Mhrifysgol Bangor. Buont yn cymryd rhan mewn sesiwn blasu dysgu iaith newydd drwy ddysgu rhifau a chwarae bingo. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cwis tebyg i 'Who Wants to be a Millionaire?'. Cafodd pawb a ddaeth adnoddau iaith, a ddarperir gan Llwybrau at Ieithoedd ac Ewrop Uniongyrchol, i fynd adref efo nhw. Cafwyd sylwadau cadarnhaol iawn gan yr ysgolion ac roedd yn wych gweld y disgyblion yn frwdfrydig am ddysgu iaith!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013