Myfyrwyr yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus.
Mae aelodau o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe 'Student Goat’, sef sioe gomedi addasiad ar y pryd yn arddull ‘Whose Line is it Anyway’ a ‘Mock the Week’, a fydd yn cael ei berfformio gyda’r digrifwr chwedlonol Phill Jupitus.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio ar Ddydd Sadwrn 15 Medi am 3pm yn Ystafell Orme, Venue Cymru, fel rhan o'r ŵyl Comedi Goat Giddy fydd yn cael ei chynnal rhwng 14-16 o Fedi. Bydd yr elw yn mynd i Hosbis Dewi Sant yn Llandudno.
Yn perfformio bydd myfyrwyr Seicoleg Josh Fenby-Taylor, 20, ac Alex Baxendale, 19, a Stephen Hill, 20, sy'n astudio'r Gyfraith, yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig Cathal McCabe, 21, Rhiannon Thompson, 21, Joshua Pink, 26 , a Gareth Monk, 21.
Dywedodd Patrick Pritchard, Llywydd Comedi Bangor: "Mae pob un o'r perfformwyr yn edrych ymlaen at y cyfle i fod ar y llwyfan gyda Phill Jupitus. Nid pawb sydd yn cael cyfle fel hyn!
"Roeddem yn ymwneud â'r ŵyl Goat Giddy y llynedd ac ar ôl sioe lwyddiannus iawn, lle lwyddom i godi dros £1000 ar gyfer Hosbis Dewi Sant, rydym wedi cael gwahoddiad i berfformio eto eleni."
Ychwanegodd Patrick: "Bangor Comedy yw un o'r cymdeithasau mwyaf llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor. Mae tair prif gangen - Addasiad ar y Pryd, Stand Up a sgets.
"Rydym yn perfformio sioeau yn rheolaidd ym Mangor drwy gydol y flwyddyn academaidd ac yn cynnal tair sesiwn ymarfer yr wythnos. Mae'r rhain yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn comedi o unrhyw fath felly dewch draw i roi cynnig arni."
Mae tocynnau yn costio £5 ymlaen llaw neu £7 ar y diwrnod. I brynu tocynnau e-bostiwch comedy@undeb.bangor.ac.uk neu ffoniwch Swyddfa Archebu Venue Cymru ar 01492 872000 gan ddyfynnu 'Bangor' os ydych yn fyfyrwyr Bangor am ddisgownt.
Gwyliwch fideo o sioe'r llynedd
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012