Myfyrwyr yn mentro yn yr Her £10
Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ran mewn Her £10 a drefnwyd gan Broject Byddwch yn Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Benthycodd myfyrwyr £10 yn unigol neu mewn timau bach, a cheisio gwneud cymaint o arian ag y gallent mewn pythefnos mewn ffordd fentrus, er mwyn ennill y wobr gyntaf o £200.
‘Innovative’ oedd y tîm a wnaeth y swm mwyaf o arian, sef £515, a chawsant £200 yn ychwanegol am eu llwyddiant. Gwnaethpwyd yr elw gan Catrin Hughes, myfyrwyr Busnes israddedig, ac Aaron Toner, myfyriwr israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer trwy ddefnyddio eu £10 i farchnata a hyrwyddo rhaglen ar-lein.
Rhoddwyd gwobr “Pen ac Ysgwyddau Uwchlaw’r Dyrfa” i’r tîm oedd wedi cael y syniad mwyaf gwreiddiol i godi arian. Fe lwyddodd tîm ‘Keep Calm and Carry On,’ sef Alex Dunk a Sam Davies, y ddau’n fyfyrwyr israddedig yn Ysgol Astudiaethau creadigol o’r Cyfryngau, i godi £96 trwy werthu Tîm Rygbi Prifysgol Bangor ar ‘ocsiwn’ ym Mar Uno, mewn digwyddiad cymdeithasol hwyliog i fyfyrwyr. Rhoddwyd yr elw i gyd ganddynt i Cancer Research UK, a chawsant wobr o £30 yr un.
Lansiwyd y gystadleuaeth trwy gynnal gweithdy Ffatri Syniadau, dan ofal entrepreneur a siaradwr anogol lleol, Linden Nicholls (perchennog Orakel a First String) sydd hefyd yn Fodel Rôl Dynamo. Pwrpas y gweithdy oedd ysbrydoli’r myfyrwyr oedd yn cymryd rhan i gael ffydd yn eu syniadau eu hunain, ac i feddwl yn fwy creadigol.
Meddai Lowri Owen, Pencampwraig Menter a Chydlynydd Projectau Byddwch yn Fentrus:
“Mae’r gystadleuaeth hon yn ddull gwerthfawr o alluogi myfyrwyr i ddysgu am fusnes a chreadigrwydd mewn ffordd ymarferol. Mae’r ffaith bod llawer ohonynt wedi rhoi peth neu’r cyfan o’u helw i elusennau a chyrff lleol yn fendith ychwanegol. Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn caniatáu i ni gael arian i gynnal gweithgareddau fel y rhain. Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a, ddigwyddiadau Byddwch Fentrus yn y dyfodol, ewch i www.bangor.ac.uk/careers neu dudalen Facebook Byddwch Fentrus; www.facebook.com/benterprising .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011