Myfyrwyr yn modelu ar gyfer y Brifysgol!
Cafodd rhai o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor seibiant o astudio a blas ar fywyd o flaen y camera wrth iddynt fodelu ar gyfer un o gyhoeddiadau allweddol Prifysgol Bangor.
Bydd prospectws newydd y Brifysgol yn cael ei lansio mewn Ffeiri Addysg Uwch yng Nghymru fis Ebrill. Mae’n llawn gwybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr, yn cynnwys manylion cyrsiau gradd a’r wybodaeth ddiweddaraf am astudio ym Mangor, llety, cymorth i fyfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon, bywyd myfyrwyr a gwybodaeth am Fangor a’r ardal.
Dau o sêr y prospectws, sy’n ymddangos ar y clawr, ydy Alun Wynne Jones, 20, o Gaernarfon a Donna Davies, 19, o Lanuwchllyn.
Meddai Alun, sydd yn astudio Gwyddorau Chwaraeon gydag Addysg Gorfforol, “Mae bod yn fyfyriwr ym Mangor yn wych. Ers dod yma dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd a dwi’n mwynhau byw yn JMJ lle mae cymuned mor dda ac agos.
“Roedd cymryd rhan yn y sesiwn tynnu lluniau yn grêt. Mewn ffordd, ni sy’n hybu myfyrwyr newydd Cymraeg i ddod i Fangor, a gobeithio i ddod i fyw yn Neuadd JMJ!
Ychwanegodd Donna, sy’n ei blwyddyn gyntaf o gwrs gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, “ Dwi’n mwynhau astudio ym Mangor, yn enwedig oherwydd y gymdeithas Gymraeg a'r cyfleoedd i gymdeithasu.”
Bydd copïau o’r prospectws yn cael eu dosbarthu i ysgolion, colegau a chanolfannau gyrfaoedd ledled Cymru. Mae hefyd yn bosib archebu copïau ar lein trwy wefan Prifysgol Bangor www.bangor.ac.uk a trwy e-bostio prospectus@bangor.ac.uk neu ffonio’r Uned Recriwtio Myfyrwyr ar 01248 383561.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2011