Nawr mae myfyrwyr Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Busnes Bangor wedi eu heithrio o wyth o arholiadau proffesiynol ACCA
Mae Ysgol Busnes Bangor wedi llwyddo i ymuno â nifer fach o ysgolion busnes yn y Deyrnas Unedig sydd nawr yn cynnig i fyfyrwyr ar eu cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid gael eu heithrio o wyth o arholiadau proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yw'r corff byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol, gyda dros 219,000 o aelodau mewn 179 o wledydd. Mae cymhwyster ACCA, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn un uchel ei barch ac mae galw mawr amdano gan gyflogwyr ledled y byd.
Mae ein cyrsiau sydd wedi'u hachredu gan yr ACCA (a restrir isod) wedi cael eu hasesu ac, oherwydd bod rhannau o'u maes llafur yn cyfateb i gymhwyster yr ACCA, mae ein myfyrwyr yn cael ei heithrio rhag sefyll rhai o arholiadau'r ACCA. Oherwydd hynny mae myfyrwyr sy'n gwneud y cyrsiau hyn yn cael sefyll llai o arholiadau'r ACCA i gydnabod yr hyn maent wedi'i gyflawni eisoes yn eu gradd Ysgol Busnes Bangor. Gall hyn gwtogi'n sylweddol yr amser y mae'n ei gymryd i ennill y cymhwyster proffesiynol ar ôl graddio.
Ein cyrsiau a achredwyd gan yr ACCA:
- BSc Cyfrifeg a Chyllid (hyd at 8 eithriad)
- BSc Cyfrifeg a Bancio (hyd at 6 eithriad)
- BSc Cyfrifeg ac Economeg (hyd at 7 eithriad)
- BSc Rheolaeth gyda Chyfrifeg (hyd at 6 eithriad)
- BSc Bancio a Chyllid (hyd at 4 eithriad)
Yn ogystal ag eithriadau sydd eisoes wedi'u hachredu, mae myfyrwyr ar bob un o'n cyrsiau a achredwyd gan yr ACCA bellach yn gymwys i gael eu heithrio o bapur Rheolaeth Ariannol yr ACCA, yn amodol ar basio modiwlau gofynnol.
Cliciwch yma am fanylion pellach ar sut y gall myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor hawlio eu heithriadau o sefyll arholiadau'r ACCA.
Yn ogystal â chydnabyddiaeth gan yr ACCA, mae ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig wedi'u hachredu gan lu o gyrff proffesiynol eraill.
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Y corff byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2019