Pencampwriaethau Codi Pwysau Prydain yn dod i Faes Glas
Bydd Maes Glas, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, yn cynnal Pencampwriaethau Codi Pwysau Prydain ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf.
Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn cael ei gynnal yn ôl troed llwyddiannau 2012, sef cael tîm codi pwysau Olympaidd China yn ymarfer yn y ganolfan, a chynnal cystadleuaeth codi pwysau’r Gwledydd Cartref.
Ystyrir y pencampwriaethau fel un o ddigwyddiadau mwyaf calendr codi pwysau Prydain, ac mae llwyddo yn y gystadleuaeth yn agor y drws i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Bydd dynion a merched o bob cwr o Brydain yn cystadlu yn y gobaith o ennill teitl. Bydd y cystadleuwyr yn cael eu pwyso yn gynnar yn y bore a bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 10am. Mae croeso i bobl ddod i wylio.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o groesawu codwyr pwysau o Brydain yn ôl i Faes Glas eleni, ac yn falch o gael cynnal digwyddiad mor bwysig."
Rhagor o wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013