Pennaeth yr Ysgol - Jamie Macdonald yn siarad yng Nghynulliad Cymru yng Nghaerdydd
Ymunodd Jamie Macdonald, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, ag aelodau o'r Physiological Society, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhai o Aelodau'r Cynulliad mewn digwyddiad dathlu athrafodaeth grŵp panel yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Trefnwyd y digwyddiad mewn ymateb i ganfyddiadau diweddar gan y Physiological Society yn datgelu bod 750,000 o swyddi yng Nghymru yn cyflogi graddedigion gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, a bod cyflogwyr o Gymru yn hysbysebu 2,500 o swyddi bob blwyddyn sy'n gofyn am sgiliau gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Bu Jamie yn trafod twristiaeth antur yn benodol. Meddai Jamie: “Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gwella sgiliau ein graddedigion i fodloni anghenion cyflogwyr, yn enwedig busnesau twristiaeth antur. Mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a Thwristiaeth Antur mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu Cymru a'r Deyrnas Unedig i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd ac economaidd; mae gan ein graddedigion y sgiliau perffaith i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir gan amgylchedd naturiol Cymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol”. Gweler adroddiadau cryno Cymraeg a Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2020