Penodiad i arwain thema newydd ymchwil iechyd i Pontio
Mae Dr John Parkinson wedi cael ei benodi i arwain thema ymchwil newydd i broject Pontio Prifysgol Bangor, a ddatblygwyd yn y cyfnod yn arwain at agor canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi yn 2013.
Mae rhaglen ymchwil ac arloesi Pontio yn datblygu tair thema ymchwil ryngddisgyblaethol: Iechyd, yr Amgylchedd a Diwylliant. Bydd Dr Parkinson yn arwain thema ‘Iechyd’, gan ymuno â’r Athro Jerry Hunter sy’n gyfrifol am ‘Ddiwylliant’ a’r Athro Tom DeLuca sy’n arwain thema’r ‘Amgylchedd’.
Bydd Dr Parkinson yn dod ag arbenigeddau ymchwil o bob rhan o’r Brifysgol at ei gilydd er mwyn annog cydweithio ar draws disgyblaethau. Bydd John yn rhannu ei amser rhwng Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a chyfrifoldebau ei swydd newydd.
Un o orchwylion Pontio yw bod yn gyfrwng i ddatblygu a chyflwyno arbenigedd presennol Prifysgol Bangor a gwneud yn siŵr bod cynulleidfaoedd a chymunedau y tu allan i’r brifysgol yn elwa ar yr ymchwil yma.
Meddai Dr Parkinson:
“Mae gan Brifysgol Bangor gryfderau sylweddol ar draws llawer o ddisgyblaethau, a fy swyddogaeth i fydd annog gwaith cydweithredol. Bydd y thema ‘Iechyd’ yn edrych ar bob agwedd ar les, o atal salwch i hybu gwytnwch.
Maes y mae gen i ddiddordeb arbennig mynd ar ei ôl drwy Pontio yw seicoleg y gweithle – edrych ar sut y gallwn hybu amgylchedd dymunol sy’n helpu i roi hwb i fusnes a hefyd meithrin ymdeimlad o berthyn mewn unigolion.
Gallai arbenigwyr o feysydd nad ydynt wedi arfer cydweithio yn y gorffennol – megis y celfyddydau, seicoleg, busnes, gofal iechyd ac felly ymlaen – ddod â gwahanol arbenigedd i’r maes ymchwil yma.
Bydd Pontio yn gyfrwng rhagorol i roi llwyfan newydd i ymchwil ym Mangor a sicrhau bod y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol. Dwi'n teimlo’n gyffrous iawn wrth fod yn rhan o ddatblygiad y project.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2012