Perfformiad cryf gan Beirianneg Electronig yn y REF
Mae Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi croesawu canlyniadau REF 2014 lle'r oedd ymchwil o'r ysgol yn un o'r 14 o gyflwyniadau a wnaed gan Brifysgol Bangor.
"Rydym yn falch iawn o weld bod ein hysgol yn 6ed drwy'r DU a'r orau yng Nghymru am gynnyrch ymchwil," meddai Dr. Iestyn Pierce.
"Cawsom safon 4* a 3* ar draws bob un o'r is-gategorïau o fewn proses asesu REF, sy'n dangos ein bod yn gwneud ymchwil sydd naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
"Wrth eu hystyried ochr yn ochr â'n canlyniadau cryf iawn yn yr NSS yn ddiweddar, lle cawsom ein rhoi'n 4ydd yn y DU a'r orau unwaith eto yng Nghymru, nid oes unrhyw amheuaeth bod dewis i astudio Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig y cyfuniad gorau o ysgol academaidd sydd gyda'r orau yn y byd, ynghyd â phrofiad rhagorol i'n myfyrwyr."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014