Prif Gymrodoriaeth i’r Academi Addysg Uwch
Mae Dr Charles Buckley wedi cael ei gydnabod fel Prif Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Mae hyn yn dilyn ei lwyddiant fel Cymrawd Dysgu Cenedlaethol yn 2012. Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniadau i ddatblygiad dysgu ac addysgu.---Cyflwynodd Charles yn allanol am y Brif Gymrodoriaeth ac fe’u llongyfarchwyd am ei waith o fewn y DU a thramor.
Mae’n gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o bwyllgorau cenedlaethol, yn cynnwys y Gymdeithas Staff a Datblygu Addysg ac yn Swyddog Cenhedloedd o fewn yr Academi Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol. Mae Charles yn gweithio fel Datblygwr Addysgol a Chyfarwyddwr ar y PGCertHE o fewn y Ganolfan Ragoriaeth newydd mewn Dysgu ac Addysgu (Uned CELT) ym Mangor.
Meddai Charles: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y lefel hon o gymrodoriaeth ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r cyfleoedd a roddwyd imi ym Mangor. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr eraill sy’n dymuno gwneud cais am Uwch Gymrodoriaeth a Phrif Gymrodoriaeth.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2014