Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n trafod Darlith Goffa A.H. Dodd
Bydd yr Athro Aled Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor ddydd Mercher, 22 Hydref, 2014, am 6.00pm.
Bydd yr Athro Jones yn trafod “Wales and the politics of Christian Mission in Colonial Bengal, 1890-1947” i’r Ddarlith Goffa A.H. Dodd flynyddol a gynhelir ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prif Adeilad y Brifysgol. Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Llwyddodd genhadaeth Methodistiaid Calfinaidd Cymru i Assam a gogledd ddwyrain Bengal wneud mwy nag efengylu, newidiwyd y cydbwysedd grym ar draws ddarn hir o drefedigaeth yr India. Mae Darlith Goffa A.H. Dodd eleni’n archwilio effaith y genhadaeth ar India a Chymru yn ystod cyfnod pan oedd y ddwy wlad yn diffinio mathau newydd o hunaniaeth genedlaethol.
Fel y bydd Aled Gruffydd Jones yn dadlau: 'Roedd y Cymry hynny a gymerodd ran yn y genhadaeth, boed drwy ollwng ceiniogau yn y blwch casglu yn eu capeli yng Nghymru neu drwy bregethu neu roi gofal meddygol ar strydoedd Bengal, yn gyfryngau ymwybodol mewn proses o newid chwyldroadol'.
Mae Aled Jones yn gyn ddeiliad Cadair Hanes Cymru Syr John Williams a bu’n Uwch Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2014