Prifysgol Bangor ar wyth rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2019
Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer wyth o 15 Gwobr eleni yn y Whatuni Student Choice Awards 2019. Mae'r enwebiadau wedi eu seilio ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol eu hunain.
Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn dal y wobr am y Prifysgol gorau ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau a’r wobr am y Llety Myfyrwyr gorau. Fe’i enwebwyd yn y gwobrau eleni ar gyfer:
Prifysgol y Flwyddyn
Llety
Clybiau a Chymdeithasau
Rhyngwladol
Ôl-radd
Rhagolygon Swyddi
Rhoi’n Ôl
Cefnogaeth Myfyrwyr
Mae Whatuni Student Rankings wedi eu seilio ar gyfartaleddau a gymerir o ddegau ar filoedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr ac a gyhoeddir ar Whatuni.com.
Croesawodd yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
Mae’r ffaith fod Prifysgol Bangor wedi derbyn wyth enwebiad ar gyfer gwobrau WhatUni, yn seiliedig ar farn ein myfyrwyr, yn gydnabyddiaeth o’n hymdrechion i ddarparu myfyrwyr â phrofiad llawn yma. Mae’n myfyrwyr ni wrth wraidd ein holl weithgareddau a thestun llawenydd i mi yw’r ffaith fod yr enwebiadau hyn yn perthyn i ystod lawn eu profiad yma; o’n darpariaeth a chefnogaeth academaidd i’n llety a’r gweithgareddau hamdden ar gael gan clybiau a chymdeithasau gwych Undeb y Myfyrwyr.”
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr)
"Rydyn yn falch iawn bod ein myfyrwyr wedi rhoi’r fath gymeradwyaeth i’r Brifysgol, sydd wedi arwain at yr enwebiadau hyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr er mwyn sicrhau bod eu cyfnod ym Mhrifysgol Bangor yn un difyr a buddiol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych o’r gwaith caled a wneir ar draws y Brifysgol ac yn Undeb y Myfyrwyr.”
Yn ogystal â dod a dwy wobr adref y llynedd, daeth y Brifysgol yn ail yn y categori Cyrsiau a Darlithwyr ac yn drydydd yn y categori cyffredinol Prifysgol y Flwyddyn.
Yn ôl Katie Duncan, Pennaeth Cyfathrebu IDP Connect, sydd yn trefnu’r gwobrau:
"Mewn amseroedd heriol ar gyfer sefydliadau addysg uwch, does dim gwell na chael eich cydnabod gan eich myfyrwyr am ddarparu profiad positif. Mae’r adolygiadau gan fyfyrwyr cyfredol, sydd yn cyfrannu at yr enwebiadau, hefyd yn amhrisiadwy i’r darpar fyfyrwyr hynny sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.”
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings swyddogol 2019 mewn seremoni sydd i’w chynnal yn Llundain Ebrill 25. Gellwch ddilyn yr holl hynt a helynt ar y noson gyda'r hashnod #WUSCA.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2019