Prifysgol Bangor ar y brig yng Nghymru o ran Rhagoriaeth Addysgu
Bangor yw’r Brifysgol orau yng Nghymru o ran addysgu, ac mae wedi ennill safle yn y 15 cyntaf o brifysgolion y DU o ran rhagoriaeth addysgu, yn ôl y Sunday Times University Guide ar gyfer 2012. Enillodd Bangor 79.3% yn y tablau cynghrair am y maes hollbwysig hwn.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: “Fel Prifysgol, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar addysgu rhagorol a gofal gwych am fyfyrwyr, felly mae’n bleser gennym fod ansawdd yr addysgu a geir yma wedi’i gydnabod fel y gorau yng Nghymru.”
“Mae addysgu o ansawdd uchel o’r pwysigrwydd pennaf i fyfyrwyr pan fyddant yn dewis Prifysgol. Mae gan Fangor draddodiad hir o ddarparu addysgu a dysgu o’r safon uchaf, a hynny mewn amgylchedd gofalgar a chynhaliol, fel y gall myfyrwyr wireddu eu posibiliadau i’r eithaf.”
“Rydym hefyd yn darparu cynhaliaeth o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a chymorth gan diwtoriaid personol,” ychwanegodd yr Athro Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2011