Prifysgol Bangor ymysg y 30 uchaf yn y byd yn y World GreenMetric Ranking
Mae Prifysgol Bangor wedi caei ei rhoi ymysg y 30 prifysgol 'wyrddaf' yn y byd. Roedd yr UI GreenMetric World University Ranking diweddaraf yn cymharu 360 o brifysgolion mewn 62 o wledydd ar eu hymdrechion i sicrhau cynaliadwyedd y campws a rheoli prifysgolion mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Daeth Bangor i'r 6ed safle ymhlith prifysgolion Prydain a'r uchaf un ymhlith sefydliadau Cymreig.
Mae'r perfformiad rhagorol hwn yn dilyn llwyddiant blaenorol i Fangor yn y Gynghrair Pobl a Phlaned Werdd a'r cynlluniau EWCH YN WYRDD, a gynhelir gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor i hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Mae polisi amgylcheddol Prifysgol Bangor yn gosod targedau i leihau effaith amgylcheddol ei gweithgareddau. Fel rhan o’r broses hon, mae'r Brifysgol wedi archwilio effaith amgylcheddol gweithgareddau fel adeiladu ac adnewyddu, defnyddio ynni, cludiant a chaffael cynaliadwy. Mae ymrwymiad y Brifysgol i ymgorffori cynaliadwyedd yn y cwricwlwm academaidd yn adlewyrchu'r ymdrechion a wnaed i ymgorffori cynaliadwyedd ym mholisïau amgylcheddol Bangor.
Ers nifer o flynyddoedd mae staff a myfyrwyr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) wedi bod ar y blaen o ran hyrwyddo agenda gwyrdd Prifysgol Bangor a chyfrannu at ddatblygu cynlluniau gwyrdd, yn cynnwys lleihau gwastraff a chludiant cynaliadwy.
Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth SENRGy, "mae materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, technoleg werdd a newid hinsawdd yn cael lle amlwg yn nifer o raglenni gradd SENRGy ac mae'n wych gweld ymdrechion ehangach y Brifysgol i fod yn sefydliad mwy cyfeillgar i'r amgylchedd yn cael eu cydnabod."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015