Prifysgol Bangor yn croesawu Central College
Croesawodd Prifysgol Bangor ddirprwyaeth o Central College, Iowa ym mis Mawrth. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i weld cyfleusterau’r Brifysgol, cyfarfod â staff ac ail-lofnodi cytundeb partneriaeth.
Mae Central College yn bartner astudio dramor i’r Brifysgol ers cryn amser. Mae'r Coleg yn ddarparwr astudio dramor i fyfyrwyr israddedig o golegau a phrifysgolion ledled yr Unol Daleithiau. Mae'r Coleg yn cynnig rhaglenni mewn wyth lleoliad ledled y byd lle gall myfyrwyr ddewis astudio am gyfnod o semester, haf neu flwyddyn. Mae Prifysgol Bangor yn un o'r lleoliadau unigryw yma.
Dywedodd Tecwyn Jones, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Central College, sydd wedi’i leoli ym Mangor:
"Mae Central College wedi ymwneud â Phrifysgol Bangor ers 37 mlynedd. Mae dros 225 o fyfyrwyr wedi mynd drwy'r rhaglen astudio dramor ers i'r swyddfa ranbarthol gael ei sefydlu ym Mangor yn 2005. Eleni, roedd yna 63 o fyfyrwyr ar y rhaglen, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn ail-lofnodi’r cytundeb partneriaeth."
Meddai Marc Putnam, Llywydd Central College, ar ôl iddo gwrdd â myfyrwyr o Central College sy’n astudio ym Mangor:
"Mae myfyrwyr yn hoff iawn o Fangor, maent wedi dod o hyd i ail gartref yng Nghymru. Mae hyn yn ddealladwy gan fod Bangor yn teimlo fel cartref, er ein bod wedi bod yma ond am gyfnod byr. Ni all yr un coleg neu brifysgol fod yn hunangynhaliol. Cydweithio a phartneriaeth yw'r ffordd ymlaen, felly rwyf yn ail-lofnodi ein cytundeb partneriaeth gydag uchelgais fawr. "
Bydd y cytundeb newydd gyda Central College yn awr yn galluogi myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor i gael profiad o astudio dramor yn Iowa, yn ogystal â myfyrwyr o Central College yn parhau i ddod i Fangor i astudio.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Drwy ein strategaeth ryngwladoli rydym am i'n myfyrwyr fwynhau profiadau diwylliannol amrywiol. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn weithio i’w gyflawni trwy ein cydweithrediad â Central College. "
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012