Prifysgol Bangor yn croesawu dirprwyaeth o Tsieina
Prifysgol Bangor oedd y lleoliad ar gyfer taith astudiaeth o Weinidogaeth Addysg Tsieina a nifer o gynrychiolwyr o brifysgolion Tsieina. Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus i ddysgu sut y mae prifysgolion Prydain yn cyfrannu at ddatblygu’r economi yn eu rhanbarth.
Croesawyd y ddirprwyaeth i Fangor gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, ac yna, buont yn treulio’r diwrnod yn astudio mentrau gwahanol sydd gan y brifysgol i hybu entrepreneuriaeth ac adfywio yn y rhanbarth. Buont hefyd yn gwrando ar safbwynt Llywodraeth Cymru am y dylanwad gall brifysgolion ei gael ar eu heconomïau rhanbarthol.
“Roeddem yn falch o gael y cyfle i groesawu gwesteion mor amlwg i Fangor ac i ddangos sut yr ydym yn cydweithio efo asiantaethau eraill i gefnogi busnes yn y rhanbarth,” meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes.
Yn ei gyflwyniad agoriadol, pwysleisiodd yr Athro John G. Hughes bwysigrwydd y cysylltiadau gwych sydd gan y Brifysgol efo’r awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys ei hymwneud efo Parc Ynni Môn, a’i hymrwymiad i dyfu busnesau bychain, asgwrn cefn yr economi leol, drwy gynlluniau sy’n galluogi busnesau bychain i gael mynediad at arbenigedd yn y Brifysgol i’w helpu i dyfu eu busnes.
Yn ogystal â chlywed gan staff Prifysgol Bangor am sawl gweithgaredd sy’n cefnogi busnes a menter yn y rhanbarth, clywodd y ddirprwyaeth hefyd gan nifer o gyrff eraill gan gynnwys:
Mr Dafydd Hughes, Pennaeth dros dro sector Ynni ac Amgylchedd, Menter a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru; Ms Teresa Cooper, Rheolwraig Datblygu Economaidd Uwch, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a siaradodd am effaith addysg uwch ar economïau lleol; yr Athro Ding Xuemei, Is-Lywydd Sefydliad Technoleg Harnbin a siaradodd am bolisïau a systemau sefydliadau addysg uwch er mwyn ymwneud â datblygiad rhanbarthol yn seiliedig ar drefniadau presennol; Mr Ewen Brierley, Rheolwr Datblygu Strategol Uwch, HEFCW a drafododd gydweithrediadau strategol ymysg sefydliadau addysg uwch a phellach efo anghenion rhanbarthol. Defnyddiodd Mr Robert O’Dowd, Prif Weithredwr Pontio ym Mhrifysgol Bangor, y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi fel enghraifft o’r cydweithio rhwng y llywodraeth, cyrff cyllido, y brifysgol a’r gymuned leol. Trafododd Dr Gary Reid, Pennaeth Partneriaeth Ymchwil a Menter Aber-Bangor, fuddiannau partneriaethau ar gyfer y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2011