Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cyngerdd Bryn Terfel – Tocynnau nawr ar werth
Mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi manylion cyngerdd arbennig gyda derbynnwyr ei ymddiriedolaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mai i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones. Daeth y cyhoeddiad ar y diwrnod pan dderbyniodd Bryn Terfel Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i Gerddoriaeth gan y Brifysgol.
Bydd y canwr opera rhyngwladol, sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Mozart, Verdi a Wagner, yn perfformio gydag unigolion talentog ei ymddiriedolaeth yn y lleoliad hanesyddol ar nos Sadwrn 19 Mai am 7.00pm. Mae’r digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Bangor wedi ei noddi gan Quilter, y rheolwr cyfoeth, ac Arts and Business Cymru.
Mae tocynnau i’r cyngerdd bellach ar gael ac mae modd archebu ar-lein http://www.pontio.co.uk neu www.wmc.org.uk/WhatsOn/Pontio neu wrth ffonio Swyddfa Docynnau Pontio 01248 382828.
Meddai Bryn Terfel, “Mae’n fraint imi gael derbyn y radd er anrhydedd o Brifysgol Bangor ac rwy’n falch o gyhoeddi ein bwriad i ddychwelyd ym mis Mai gyda derbynwyr Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i berfformio yn Neuadd arbennig Prichard-Jones. Bydd y gyngerdd yn cynnig llwyfan arbennig i’r artistiaid ifanc ddangos eu talent nhw o flaen cynulleidfa byw. Y bwriad gyda’r ymddiriedolaeth yw i wobrwyo unigolion yn ariannol am yr holl waith caled ac ymroddiad sydd ganddynt ar ddechrau eu gyrfaoedd.”
Ychwanega Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol Bangor, “Rydym yn falch iawn o ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones, a go brin fod ffordd well o ddiweddu’r dathliadau na gydag un o enwogion mwyaf y byd opera yn perfformio gyda sêr y dyfodol.
Cafodd Ymddiriedolaeth Bryn Terfel eu sefydlu yn 2009 ac mae’n gwobrwyo artistiaid ac unigolion ifanc gyda dawn arbennig a ffocws, egni a menter amlwg.
Mae Bryn hefyd yn lysgennad ar Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru, sydd werth £4,000 i’r enillydd. Prif nod yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu talentau rhai o bobl ifanc mwyaf dawnus Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012