Prifysgol Bangor yn llamu ymlaen o ran ei safle byd-eang
Mewn tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi mae Prifysgol Bangor wedi codi 60 safle'n uwch na'r hyn yr oedd o'r blaen. Yn y ‘QS World University Rankings’ (www.topuniversities.com) am eleni mae'r Brifysgol yn awr yn cael ei gosod yn safle 411 yn y byd.
Wrth groesawu'r newydd am safle Bangor yn y gynghrair bwysig hon, meddai'r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Erbyn hyn mae presenoldeb Prifysgol Bangor i'w deimlo ledled y byd. Mae'r Brifysgol yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol a byd-eang. Mae’r tabl yma'n cadarnhau ein henw da cynyddol yn rhyngwladol."
Mae'r llwyddiant rhyngwladol hwn yn dod yn dynn wrth sodlau llwyddiant diweddar Bangor yng nghanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS), sy'n adlewyrchu pwyslais y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr drwodd a thro. Am yr ail flwyddyn yn olynol fe wnaeth y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Awst 2015, osod Bangor yn y 10 uchaf o brifysgolion gwledydd Prydain am foddhad myfyrwyr.
Cafodd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor hefyd sgôr uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, gan gydnabod bod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai 'gyda'r orau yn y byd' neu’n 'rhagorol yn rhyngwladol'.
Cafodd y QS Subject Rankings eu lansio yn 2011 ac maent yn arweiniad i ystod o feysydd astudio poblogaidd mewn prifysgolion ar draws y byd. Mae'r detholwyr yn cloriannu miloedd o brifysgolion a gosod sefydliadau yn eu safleoedd yn y tabl ar sail ymatebion i gwestiynau gan academyddion a chyflogwyr ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015