Prifysgol Bangor yn Llofnodi Cytundeb Newydd gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain
Ar 6 Mawrth, llofnododd Prifysgol Bangor gytundeb newydd gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain (BIBF). Mae Ysgol Busnes Bangor wedi gweithio gyda'r BIBF ers 2004. Ar ôl cyfnod mor llwyddiannus o gydweithio mae'r Brifysgol yn falch o lofnodi cytundeb newydd sy'n ymestyn ac yn ychwanegu at y bartneriaeth hon ar gyfer addysg myfyrwyr israddedig Bahrain ym meysydd Bancio, Cyllid, Cyllid Islamaidd a Chyfrifeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn Bahrain. Sefydlwyd y BIBF, sy'n gysylltiedig â'r Central Bankof Bahrain ym 1981, ac mae wedi datblygu rôl ganolog yn natblygiad cyfalaf dynol Teyrnas Bahrain. Llofnodwyd y cytundeb newydd gan Dr Ahmed Al Shaikh, Cyfarwyddwr y BIBF a'r Athro Oliver Turnbull o Brifysgol Bangor.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2019