Prifysgol Bangor yn un o'r goreuon yn y DU o ran boddhad myfyrwyr
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor wedi ei rhestru yn y 10 uchaf o Brifysgolion anarbenigol y DU, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddaraf.
Mae'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, sy’n holi dros 330,000 o fyfyrwyr sy'n graddio o brifysgolion y DU, yn darparu'r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Eleni, o'r holl Brifysgolion sy'n cynnig ystod eang o bynciau, mae Bangor yn y nawfed safle yn y DU, gyda chyfradd boddhad cyffredinol o 88%.
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Addysgu a Dysgu:
“Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn darparu addysgu rhagorol a chefnogaeth gref i fyfyrwyr ers dros 130 mlynedd, ac rwyf wrth fy modd yn gweld bod canlyniadau'r arolwg yn adlewyrchu hyn unwaith eto.
“Mae'r ffaith ein bod wedi ein rhestru yn y 10 uchaf am dair mlynedd yn olynol yn profi bod myfyrwyr ym Mangor wrth eu bodd gyda'u dewis o brifysgol.
“Mae'r canfyddiadau hyn yn werthfawr hefyd i ddarpar fyfyrwyr, a fydd yn gwneud penderfyniadau am leoedd Prifysgol yn ystod yr wythnosau nesaf."
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor Myfyrwyr: “Trwy weithio gyda'n myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr 'Undeb Bangor', rydym yn gallu gwella'r hyn a wnawn yn gyson, gan roi profiad gwych i fyfyrwyr ynghyd ag amgylchedd gefnogol lle cânt eu herio'n academaidd ac yn bersonol hefyd.
“Mae hyn yn golygu bod pob unigolyn yn cael y cyfle i ddatblygu i'w lawn botensial, ac mae'n wych gweld ymateb mor ffafriol gan fyfyrwyr i’w profiadau ym Mangor.”
Mae cyfradd boddhad cyffredinol Prifysgol Bangor o 88% uwchlaw cyfartaledd y DU o 84%, a chyfartaledd Cymru o 85%.
Ychwanegodd yr Athro Turnbull: “Mae ein hymrwymiad i'n myfyrwyr, a'r profiadau gwych a gaiff y myfyrwyr ym Mangor yn ganlyniad ymdrech arbennig gan ein holl staff. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am bopeth a wnânt i gefnogi'r myfyrwyr, a hoffwn hefyd ddiolch i'n graddedigion diweddar am roi adborth cadarnhaol i'n Prifysgol.”
Bu Prifysgol Bangor hefyd yn llwyddiannus yn ennill y Safon Aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019