Prifysgol yn penodi hyrwyddwr dros y Gymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned
Mae Prifysgol Bangor wedi penodi Mr Wyn Thomas i swydd Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros gyrsiau Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, graddiodd Mr Wyn Thomas o Brifysgol Bangor, ac mae’n gweithio yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol ers 1979.
Ei brif rôl yn y swydd newydd fydd datblygu ac arwain strategaethau’r Brifysgol ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu cysylltiad y Brifysgol â chyrff allanol a’r gymuned. Yn y cyswllt hwn, bydd yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad project PONTIO.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, “Rwyf yn falch iawn ein bod wedi penodi Wyn Thomas i’r swydd bwysig hon. Mae ymrwymiad Wyn wrth addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn ddiamheuol. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad pwysig at addysg cyfrwng Cymraeg ym Mangor ac ar draws Cymru, a bydd yn awr yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y rôl newydd sy’n hanfodol i lwyddiant y Brifysgol yn ogystal ag i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol.”
Meddai Wyn Thomas, “Mae gan y Brifysgol hanes cryf o ymrwymiad wrth yr iaith Gymraeg ac wrth y gymuned leol. Rwy’n awyddus iawn i ymgymryd â’r sialensiau a’r cyfleoedd i gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, yn ogystal â gwella cysylltiadau, yn lleol a thrwy Gymru.”
Yn ychwanegol at ei swyddogaethau darlithio ac ymchwil, roedd Mr Thomas yn bennaeth ar Addysgu a Dysgu yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau rhwng 2007-10, ac yn ddiweddar hefyd yn gyfrifol am ddysgu drwy’r Gymraeg. Mae wedi bod yn arwain project ar y cyd ar ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym maes cerddoriaeth ar draws prifysgolion Cymru, wrth baratoi ar gyfer dyfodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae wedi chwarae rhan ganolog o ran datblygu ac ehangu’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a llawer ohonynt wedi cynnwys pynciau blaengar.
Yn ogystal â chynhyrchu ymchwil ysgolheigaidd ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru, mae Wyn Thomas wedi cael llwyddiant mawr ym maes trosglwyddo gwybodaeth, yn enwedig o ran galluogi busnesau lleol a rhai bach a chanolig i gael mynediad at arbenigaeth o fewn yr Ysgol Cerddoriaeth er lles i’w busnesau. Yn nodweddiadol, ef oedd y cyntaf i sefydlu cynllun partneriaeth ym Mhrydain oedd yn cysylltu cwmni bach ag adran o fewn y celfyddydau. Yn ogystal â bod o gymorth i’r busnes, aeth y bartneriaeth ymlaen i ennill gwobr Adran Masnach a Diwydiant am safon a chynnyrch yr ymchwil.
DIWEDD
24.1.11
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2011