REF 2014: cadarnhau ansawdd gyda'r orau yn y byd.
Mae Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi croesawu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Dr Eben Muse, bod yr Ysgol wedi gwneud yn eithriadol o dda, gydag 81% o gyd-gyflwyniad yr Ysgol gyda'r Ysgol Cerddoriaeth gyda'r orau yn y byd (4*) neu yn rhagorol yn rhyngwladol (3*)
Dywedodd bod y canlyniadau'n gysylltiedig ag Effaith ac amgylchedd academaidd yn arbennig o ddymunol, gyda'r Ysgol yn cael 100% yn y categori 3 a 4* am Effaith a 90% am amgylchedd. Roedd y meysydd ymchwil yn cynnwys ystod eang o bynciau yn cynnwys cyfryngau digidol, newyddiaduraeth ac astudiaethau ffilm.
Dywedodd Dr Eben Muse "Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhad pendant o'r dulliau mae'r Ysgol yn eu defnyddio i integreiddio dysgu ac ymchwil. Pan rydych chi'n gosod hyn ochr yn ochr â'n perfformiad cryf iawn yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr, mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wir yn un o'r llefydd gorau i ddod i astudio'r amrywiaeth eang o bynciau a gynigiwn.”
Gellir mynd at dabl cryno o ganlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014