REF 2014 yn cadarnhau twf yn ansawdd ymchwil Cemeg
Mae Pennaeth yr Ysgol Cemeg wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle roedd ymchwil o'r Ysgol yn un o 14 o gyflwyniadau a wnaed gan Brifysgol Bangor.
Meddai Dr Mike Beckett, "Mae ansawdd ein cynnyrch (cyhoeddiadau) wedi cynyddu'n sylweddol, gyda 68% yn awr yn cael eu hystyried fel rhai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (i fyny o 40% yn 2008), ac mae ansawdd ein holl gynnyrch wedi cael ei gydnabod o safon ryngwladol fan leiaf.
"Roedd ein dylanwad (yn cynnwys astudiaethau achos) yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ansawdd, gyda 70% yn cael ei ystyried fel gwaith gyda'r gorau'n rhyngwladol yn y maes.
"Drwodd a thro roedd 67% o'n cyflwyniad gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (i fyny o 45% yn 2008), gyda'r sgôr cyfartaledd am ansawdd Cemeg yn parhau i wella gan godi o 2.45 i 2.70.
Wrth roi'r ffigurau hyn ochr yn ochr â'n canlyniadau cryf iawn yn yr NSS diweddar (uchaf yng Nghymru) rydym yn gweld canlyniadau REF 2014 yn cadarnhau ein safle fel Ysgol ac fel prifysgol sy'n cynnig y cyfuniad gorau o ysgol academaidd gyda'r orau yn y byd, ynghyd â phrofiad rhagorol i'n myfyrwyr."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014