Rhodd o gymorth o Fangor i Japan
Mae myfyrwyr o Japan sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi medru cyfrannu dros £7,500 tuag at Gymdeithas y Groes Goch Japan.
Codwyd yr arian drwy eu hymdrechion, ac ar y cyd efo ‘Bangor dros Japan’, wrth drefnu digwyddiadau a hel arian mewn mannau cyhoeddus, ar Stryd Fawr Bangor yng Nghaernarfon ac o amgylch Prifysgol Bangor. Bydd yr arian yn cael ei defnyddio ar gyfer yr argyfwng yn sgil y daeargryn a tsunami a ddigwyddodd mis diwethaf.
Meddai Atsushi Kajimoto ar ran Bangor dros Japan: “Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd am eu cefnogaeth. Llwyddwyd i gasglu £7,535.97, a fydd yn cael ei defnyddio i helpu dioddefwyr ailadeiladu’u bywydau a’u cymunedau.”
Meddai un o’r myfyrwyr, Chie Takahashi: “Hoffwn ddweud diolch mawr iawn i bawb am y gefnogaeth rydym wedi derbyn. Mae pob rhodd a neges o gefnogaeth yn galondid i bobol yn Japan ac i ninnau ym Mangor. Rydym wedi gwerthfawrogi sut y mae myfyrwyr o Japan a diwylliant Japan wedi’i dderbyn yn lleol ym Mangor a Gogledd Cymru.”
Roedd y digwyddiadau a drefnwyd yn cynnwys gweithdy diwylliant Japaneaidd a digwyddiad o’r enw ‘Ganbare Nippon!’ (‘peidiwch roi’r gore iddi, Japan!’)
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2011