Rhoi amlygrwydd i weithiau celf Brenhinol
Cynhelir Darlith Gyhoeddus flynyddol T. Rowland Hughes ym Mhrifysgol Bangor 'The Royal Collection on Show' nos Iau 12 Tachwedd am 7.00pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau Prifysgol Bangor.
Bydd darlith eleni yn canolbwyntio ei sylw ar un o'r casgliadau celf mwyaf yn y byd - y Casgliad Brenhinol, sy'n cael ei arddangos mewn gwahanol balasau brenhinol ac yn cael ei dal ar ymddiried gan y Frenhines ar ran pobl y Deyrnas Unedig.
Mae'r Casgliad Brenhinol yn arbennig o gyfoethog ac amrywiol. Mae'n cynnwys lluniadau'r Hen Feistri, dyfrlliwiau o oes Fictoria, paentiadau Eidalaidd o gyfnod y Dadeni, portreadau o Brydain yn ogystal â phorslen, gemwaith, tapestri, clociau, cerfluniau a hyd yn oed gemau'r goron!
Bydd Jonathan Marsden, Cyfarwyddwr y Casgliad Brenhinol, yn egluro sut y mae'r gwaith celf a gasglwyd gan wahanol frenhinoedd a breninesau ers oes Harri VIII wedi cael ei arddangos i'r cyhoedd, a sut mae mynd i'w weld. Mae Mr Marsden yn gweithio gyda'r Casgliad Brenhinol ers ymron i 20 mlynedd, yn gyntaf fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithiau Celf y Frenhines, ac yna fel Cyfarwyddwr ers 2010.
Croeso i bawb ddod i’r ddarlith sydd am ddim. Nid oes angen archebu lle.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015