Ruby Wax yn ymweld â phroject celfyddyd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl
Ddydd Iau, 3 Mawrth, cafodd Diwrnod Iechyd Meddwl 2016 Prifysgolion ei gynnal ar gampysau ar draws gwledydd Prydain.
Yma ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o'r Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr, bu myfyrwyr a staff o bob rhan o'r Brifysgol yn cydweithio i gynnig nifer o weithgareddau y gallai pawb gymryd rhan ynddynt.
Fe wnaeth Ruby Wax, sy'n adnabyddus am ei hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar, ymweld â'r project celf rhyngweithiol i fyfyrwyr yn Pontio - 'Hwn ydi fy mydysawd i'.
'Hoffem ddiolch i Ruby Wax am gymryd amser o'i hamserlen deithio brysur i'n cefnogi, a hefyd i Gronfa Alumni Bangor, oherwydd heb eu rhodd hael ni fyddai'r project yma wedi bod yn bosibl' meddai Kate Tindle, Pennaeth Cwnsela a Chadeirydd y Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr.
'Rydym yn hynod falch bod cymaint o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau ar y diwrnod. Roedd y rhain yn cynnwys sesiwn galw heibio a chyngor drwy'r dydd ar faterion iechyd meddwl, cerddoriaeth fyw a ddarparwyd gan staff a myfyrwyr o'r Ysgol Cerddoriaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a lansio holiadur ymchwil ar draws Prydain sy'n edrych ar iechyd meddwl myfyrwyr.'
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016