Seiclo 180 milltir i Gaerdydd i godi arian i ward Alaw, Ysbyty Gwynedd
Bydd darlithydd newyddiaudraeth yn taclo taith i Gaerdydd fis Medi – ar gefn beic i godi arian i ward trin canser.
“Bu farw un o’m ffrindiau eleni o ganser, Ianto Williams, deuddydd cyn ei briodas, ac roeddem eisiau gwneud digwyddiad i’w goffhau. Fe soniodd droeon am daith fel hyn i Gaerdydd, felly cyfle i’w gofio a mwynhau y daith – os na mwynhau y gall rhywun wneud ar set beic am 180 milltir!” medd Llion Iwan sy’n ddarlithydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau.
Ar Fedi 1af bydd Llion a cyn-fyfriwr o’r ysgol, Dylan Halliday, sydd bellach yn olygyd Y Cymro, yn seiclo o Ddyffryn Nantlle i Gaerdydd, 180 milltir, ar gyfer gêm Cymru v Montengro.
Yr her i ffrind arall, Neil Garton Jones fydd rhedeg i gopa tri o fynyddoedd uchaf Cymru mewn 24 awr, Yr Wyddfa, Cader Idris a Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog. – 9,307 troedfedd o ddringo.
Bydd pawb sydd yn cefnogi yn cael cyfle i ennill crys pêl-droed Cymru wedi ei arwyddo gan ddau gyn-chwaraewr, John Hartson a Malcolm Allen.
Yr oll fydd rhaid ei wneud ydi noddi a dyfalu cyfanswm yr oriau o seiclo y cymerith i gyrraedd Caerdydd a rhedeg y tri mynydd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011