Sgwrs gan Iolo Williams
Bydd y naturiaethwr Cymraeg, Iolo Williams yn trafod ei yrfa mewn sgwrs yn Pontio, Prifysgol Bangor, nos Fercher 26 Medi.
Magwyd Iolo yn y canolbarth, a bu’n gweithio i’r RSPB cyn dod yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ar raglenni fel Springwatch ymhlith eraill.
Mae Iolo yn siaradwr diddan a brwdfrydig felly gellir disgwyl noson ddiddorol yn ei gwmni. Cynhelir y sgwrs yn Saesneg ac mae’n addas ar gyfer pawb o bob oedran.
Cynhelir y sgwrs yn Narlithfa 5 Pontio am 7.00 gyda’r tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio neu ar-lein am £10, gyda phris gostyngedig o £6 i rai dros 60, dan 18 neu i fyfyrwyr.
Rhoddir holl elw’r noson i Ymddiriedolaeth Sophie Williams. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth fel modd o godi arian ar gyfer addasu cartref y gadwraethwraig Sophie Williams, a oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, pan y trawyd hi gan Lid yr Ymennydd Siapaneaidd a’i pharlysu yn ystod taith ymchwil i Tsieina.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2018