Sgwrs gyda’r Cyn-Weinidog Tramor
Ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (Iau 24 Mawrth), siaradodd y cyn-Weinidog Tramor, David Miliband, heb flewyn ar ei dafod, am ei fywyd a’i yrfa. Roedd Mr Miliband wedi ei grybwyll fel Prif Weinidog posib i’r dyfodol, ond mae bellach wedi camu’n ôl o’r rheng flaen ym myd gwleidyddiaeth. Roedd yn Ysgrifennydd Tramor o 2007 hyd at 2010, ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cyn hynny.
Yn ystod ‘An Evening with David Miliband’, ym Mhrifysgol Bangor, cafodd Mr Miliband ei holi am ei fywyd a’i yrfa, ei farn ar faterion rhyngwladol cyfoes a’r sefyllfa yng Ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol ar hyn o bryd, am y modd y trechwyd ef gan ei frawd Ed ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, ac am faterion y tu hwnt i wleidyddiaeth. Yn ddiweddar, mae wedi dod yn Is-Gadeirydd ar Sunderland FC.
Nid yw amgylchedd prifysgol yn un dieithr i David Miliband. Roedd ei dad, Ralph Miliband yn ysgolhaig sosialaidd uchel ei barch ac yn Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Leeds. Enillodd David Miliband radd ddosbarth cyntaf o Rydychen. Yna, dilynodd gwrs ôl-radd yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (Ysgol Kennedy), lle enillodd radd MSc mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011