Sioe Arddangos 2013 yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Cynhelir Sioe Arddangos yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ar 3 Mai o 7pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Hon fydd ail flwyddyn cynnal y sioe arbennig hon. Mae'n ddigwyddiad am ddim sy'n agored i'r cyhoedd ond mae angen tocyn i ddod i mewn, a gall unrhyw un a hoffai archebu tocyn gysylltu â Mikey Murray (m.murray@bangor.ac.uk).
Bydd y noson yn achlysur carped coch a disgwylir i bawb fydd yn dod wisgo dillad smart. Bydd yn gyfle i roi sylw i waith gorau myfyrwyr, yn israddedigion ac ôl-raddedigion, o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau. Rhoddir sylw i amrywiaeth eang o waith ar draws gwahanol ddisgyblaethau astudiaethau creadigol a'r cyfryngau.
Ni roddir gwobrau am waith myfyrwyr, ond cyhoeddir enillwyr ail gystadleuaeth flynyddol yr Ysgol ar lunio sgriptiau teledu. Gwneir cyflwyniad arbennig hefyd i Student Cut Films, a enillodd gomisiwn fel grŵp gan Neuaddau Myfyrwyr Prifysgol Bangor i gynhyrchu eu fideo newydd i fyfyrwyr ar ddiogelwch rhag tân.
Caiff y gystadleuaeth sgriptio ei beirniadu gan Jamie Sherry, Mikey Murray, Joanna Wright, a Geraint Wyn Ellis. Bydd yr holl waith o safon arbennig o uchel, yn union fel y llynedd. Bydd yr achlysur yn dangos (yn arbennig ym maes cynhyrchu ffilmiau) sut mae myfyrwyr yn symud ymlaen o flwyddyn un i lunio traethawd hir, ac yna i lefel ôl-raddedig.
Mae disgyblaethau eraill a gynrychiolir yn cynnwys Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol. Bydd yr achlysur yn dechrau gydag anerchiadau dechreuol gan Bennaeth yr Ysgol, Stephanie Marriott, a'r Is-ganghellor.
Disgwylir y bydd y Brif Ddarlithfa'n orlawn eleni, felly mae'n ddoeth archebu tocyn i'r digwyddiad mor fuan â phosibl. Yn dilyn y digwyddiad ceir parti am 9.30pm yng Ngwesty Menai ar Ffordd Craig y Don, gwaith ychydig funudau o gerdded o'r Prif Adeilad. Mae croeso i bawb a ddaeth i'r Sioe Arddangos ddod yno gyda'u tocyn.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013