Sir Roger Casement- Yr Arwr Olaf
Ar ddydd Gwener y Groglith 1916 'roedd Roger Casement wedi glanio yn yr Iwerddon o long danfor Almaenig ac wedi ei arestio yn syth. Cyhuddwyd ef o deyrn fradwriaeth yn erbyn y goron ac fe'i crogwyd ym mis Awst 1916.
Bydd darlith Gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor am 6.30 Dydd Mercher 19 Hydref yn trafod achos llys y gŵr a’i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth- a’r cyswllt hefyd sy’n bodoli gyda Phrifysgol Bangor. Un o'r rhai a fu yn ei amddiffyn yn yr Old Bailey oedd Thomas Artemus Jones, a death yn farnwr blaenllaw, ac mae ei bapurau, gan gynnwys ei nodiadau ar achos Casement, ar gadw yn Archifdy’r Brifysgol.
Yr Athro Owen Dudley Edwards, hanesydd adnabyddus sy’n Gymrawd er Anrhydedd mewn Hanes ym Mhrifysgol Caeredin fydd yn traddodi’r ddarlith ' Rex versus Sir Roger Casement - The Last Hero' ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, ac mae’r ddarlith ar agor i bawb. Hon yw'r ddarlith gyntaf o dan nawdd yr Archifdy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2011