Sweet William Portread o Shakespeare a’i gelfyddyd
Sweet William Portread o Shakespeare a’i gelfyddyd
Gyda MICHAEL PENNINGTON
Actor byd-enwog….dramodydd byd-enwog.
Sioe un dyn dwy-awr o hyd sy’n cyfuno sgiliau perfformio gydag ymchwil dwfn i’r testun a gwybodaeth ymarferol i greu darlun crwn o’r dramodydd ei hun. Drwy ail-greu amryfal gymeriadau’r dramau mae’r actor yn cyfleu amrywiaeth di-ddiwedd byd Shakespeare. Mae Pennington yn rhannu ei wybodaeth ddwfn mewn ffordd mor gartrefol â dyn yn sgwrsio a chi mewn tafarn… Gem hudol o sioe.
Mae gyrfa Michael Pennington yn rhychwantu 40 mlynedd o theatr Lloegr. Bu’n actio mewn rhannau arweiniol yn y Royal Shakespeare Company, y Royal National Theatre a’r English Shakespeare Company, y cwmni a ffurfiodd gyda Michael Bogdanov sy’n awr yn gweithio yng Ngymru. Teithiodd y byd dair gwaith gyda’r cwmni hwn, ynghyd ac ymddangosiadau yn y West End, teledu a ffilm. Cyhoeddodd dri llyfr ar ddramau Shakespeare, ac ef a gyflwynodd darlith Shakespearaidd flynyddol yr Academi Brydeinig yn 2004.
Tachwedd 6ed 2010. Stiwdio Ddrama, Coleg Menai, Hen Ysgol Friars, Ffordd Ffriddoedd, Bangor 7.30 p.m.Tocynnau : £10/£6 consesiynau. Archebwch drwy ffonio 01248 382141 / Adran Saesneg y Brifysgol ar 01248 382102 neu ar-lein drwy www.pontio.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010